Event Info
Canllaw Oedran: 16+ oed
Rhediad: 40 munud/toriad 15 munud/40 munud
Mae’r Clwb Comedi yn dychwelyd i’r Theatr Stiwdio yn ystod y Gwanwyn eleni!
Leroy Brito
Fel y’i gwelwyd arBBC SeshaTourist TrapBBC Wales
“Un o sêr esgynnol Comedi Gymreig” What’s On Stage“Presenoldeb cryf ar y llwyfan, jôcs gwych a rhywbeth sy’n wahanol i’r cyffredin“ The Glee Club“Comedi glyfar, ‘roedd yn wledd i’w gwylio” FwyCardiff
William Stone
Yn hanu o dref farchnad ddosbarth-gweithiol ogleddol ddi-nod, enillodd jôcs un-llinell mympwyol William le iddo yn rownd derfynol Gwobr Gomedi Newydd y BBC 2018, rownd derfynol Cystadleuaeth Act Newydd y Flwyddyn Leicester Square a rownd derfynol Act Newydd y Flwyddyn 2Northdown 2020.
Mae ysgrifennu William wedi’i gynnwys ar Mock the Week, The News Quiz a Newsjack. Cewch gip ar William hefyd yn y sgetshis y mae wedi'u hysgrifennu a serennu ynddynt ar gyfer Three Quickies y BBC a Doorstep Comedy ar NextUp. Mae wedi perfformio stand-yp byw ar BBC Radio 4 a Radio 2. Yn fwyaf diweddar, ymddangosodd William fel cyflwynydd yn y sioe gomedi arsylliadol hir-ddisgwyliedig Live At The Moth Club ar Dave. Ar hyn o bryd mae'n cefnogi Margus Brigstocke ar ei daith o gwmpas y DU.
Mel Owen
“Bywiog, doniol ac yn gwbl ddiatal”
Rebel Rebel Comedy
““Act newydd fwyaf cyffrous Cymru”
Clwb Comedi
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.