Event Info
Mae Abertoir, Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru, yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed! Gydag amserlen gwbl orlawn, byddwn yn ymdrin â phopeth o ffilmiau clasurol i ragolygon o ffilmiau newydd sbon heb eu rhyddhau yn y DU, perfformiadau byw, sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a llawer mwy. Ar gyfer unrhyw un dros 18 oed yn unig.Mae pas diwrnod yn rhoi mynediad i holl ddigwyddiadau Abertoir yn ystod pob diwrnod penodol – mae hyn yn cynnwys perfformiadau, sgyrsiau, cyflwyniadau a ffilmiau – popeth!
Hefyd, mae pas pum diwrnod llawn ddim ond £85, a gellir ei brynu trwy fynd i'r ddolen YMA
Am y wybodaeth ddiweddaraf a'r amserlen lawn, ewch i abertoir.co.uk