Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 19 Maw
·
Theatr

Event Info

Canllaw Oedran: 14+ oed 

Rhediad: tua 70 munud dim toriad

Mae TRIONGL yn defnyddio eu hiwmor tywyll nodweddiadol i archwilio marwolaeth, byw gyda marwolaeth a'r posibilrwydd o fywyd y tu hwnt yn y gomedi ddwyieithog hon. Wedi'i hysbrydoli gan nosweithiau wedi’u treulio mewn sioeau cyfrwng seicig a straeon personol am alar, mae’r sioe yn cwestiynu sut ‘rydym ynrhyngweithio â marwolaeth, beth sydd ar yr ochr arall a sut ‘rydym ni, y byw, yn dod i delerau â'r anhysbys mawr? Wedi'i chyflwyno'n ddwyieithog ond yn hygyrch i ddysgwyr y Gymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mewn partneriaeth â Theatr Soar, Merthyr.

Iaith y perfformiad: Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Addas ar gyfer dysgwyr a’r sawl nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Canllawiau Cynnwys: Rhywfaint o regi a themâu marwolaeth/galar

Hygyrchedd: Disgrifiad Sain Integredig - Mae taith gyffwrdd ar gael gan y cast ar gais.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Iau 19 Mawrth, 2026
19:45
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.