Event Info
Tymor 2: Dechrau 12.01.2026 tan 23.03.2026
Faint o wythnosau: Cwrs 10 wythnos (dim gwers yn ystod hanner tymor)
Pryd: Dydd Llun 6:00 - 7:00yh
Oedran: 14+ oed
Lleoliad: Stiwdio
Tiwtor: Steffan Rees
Dan arweiniad y cerddor lleol Steff Rees cewch hwyl wrth ddatblygu eich sgiliau cerddorol tra’n dysgu caneuon Cymraeg o bob math. Croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg o bob lefel gan gynnwys dysgwyr brwd. Caiff y cwrs ei redeg mewn partneriaeth gyda Cered.
Ydych chi eisoes yn gallu chwarae ychydig o’r ukulele? Beth am ymuno â Iwcadwli sef cerddorfa ukulele Cymraeg ei iaith yma yn Aberystwyth? Dan arweiniad y cerddor lleol Steff Rees cewch hwyl wrth ddatblygu eich sgiliau cerddorol tra’n dysgu caneuon Cymraeg o bob math. Croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg o bob lefel gan gynnwys dysgwyr brwd. Caiff Iwcadwli ei redeg mewn partneriaeth gyda Cered: Menter Iaith Ceredigion.
O bryd i’w gilydd fe fydd Iwcadwli yn cael gwahoddiad i berfformio yn gyhoeddus mewn digwyddiadau lleol ac fe fydd modd i aelodau’r ddau grŵp uno gan berfformio set o glasuron Cymraeg addas i bawb.