Event Info
Tabakova Concerto Soddgrwth
Bartok Divertimento ar gyfer Llinynnau
Yn ogystal â chaneuon gwerin a Chymreig wedi’u trefnu ar gyfer y soddgrwth a cherddorfa
Laura van der Heijden Soddgrwth
O alawon cynhyrfus Dobrinka Tabakova i egni crai Bartók, dyma gyngerdd sy’n daith wyllt trwy weadau daearol a chyferbyniadau cyffrous. Ymunwch â ni wrth i enillydd cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC, Laura van der Heijden, sy’n adnabyddus am ei chwarae ‘meddylgar, pwerus a didwyll’ (BBC Music Magazine), arwain Sinfonia Cymru mewn noson wefreiddiol.
Canllaw Oedran: Addas i bawb ( Dim plant o dan 7 oed )
Rhediad: 40 munud/toriad 20 munud/40 munud
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.