Event Info
Mae'r Plant yn treulio'r flwyddyn gyfan yn dadlau a yw Alton Towers mewn gwirionedd yn well na Thorpe Park. Ar hyn o bryd mae gan Alton Towers 2 bleidlais ac mae gan Thorpe Park 2 bleidlais. Mae'r bleidlais benderfynol yn mynd i'r ieuengaf, Angel sydd heb fod i'r un ohonyn nhw eto, oherwydd mae e’ ym mlwyddyn 7 ac nid ydych yn cael mynd ar y Strafagansa Parciau Thema tan ddiwedd Blwyddyn 7. Ond mae hynny'n llythrennol mewn pythefnos, felly bydd y mater yn cael ei setlo unwaith ac am byth, yn fuan iawn, iawn! Felly beth all o bosib fynd o'i le?.... Wel mae Angel yn cael ei wahardd o'r ysgol, mae Nain yn mynd i ffwrdd ar wyliau annisgwyl, mae Dad yn dod draw i ofalu am bawb ac yn para un noson yn unig, ac mae’r Plant yn benthyg car Nain ac yn ei ddryllio yn erbyn fan Waitrose. Mae'r holl beth yn llythrennol yn llanast llwyr! llwyr!
Canllaw Oedran: 13+ oed
Rhediad: I’w ddilyn
Canllaw Cynnwys: Iaith Gref
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.