Event Info
Morita Yoshimitsu, Siapan 2003, 135 munud, is-deitlau
Yng ngaeaf 1979, mae'r pedair chwaer Takezawa yn ailuno ar ôl darganfod cwrwriaeth gyfrinachol eu tad sy’n heneiddio (Nakadai Tatsuya) - a hyd yn oed y plentyn a anwyd yn ei sgil. Wrth ddewis gwarchod eu mam Fuji (Yachigusa Kaoru) rhag y gwir, mae problemau a chyfrinachau personol pob un o'r pedair hefyd yn dod i'r amlwg.
Mae'r hynaf, Tsunako (Otake Shinobu), mewn perthynas gythryblus. Mae Makiko (Kuroki Hitomi), yr ail chwaer, yn dioddef yn dawel y wybodaeth bod gan ei gŵr gariad iau. Mae Takiko (Fukatsu Eri), sy'n boenus o swil, wedi penderfynu priodi ei chariad cyntaf. Ac mae'r ieuengaf, Sakiko (Fukada Kyoko), yn feichiog gyda'i chariad sy’n focsiwr.
Yn seiliedig ar y llyfr clodwiw a drama 1979 Corfforaeth Ddarlledu Siapan o’r un enw, mae Morita Yoshimitsu (The Family Game 1983; Haru 1996), un o gyfarwyddwyr enwocaf Siapan, yn portreadu gyda sgil a sensitifrwydd dyfnder emosiynol pob cymeriad, gan archwilio'r syniad bod gan fodau dynol lawer o wahanol wynebau yn cuddio emosiynau cymhleth, sy’n gwthdaro’n aml, yn y ffilm ddiamser hon.