Event Info
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG ( Caniateir alcohol )
PARTH MELYN ZONE: Canllaw Oedran: 7+ oed ( Ni chaniateir alcohol )*
Rhediad: 50 munud/toriad 20 munud/50 munud
Canllawiau Cynnwys: rhai goleuadau yn fflachio
Iaith y perfformiad: Saesneg
A Sky Full of Stars: Teyrnged i Coldplay
Byddwch yn barod am noson wefreiddiol o gerddoriaeth ac hudoliaeth gyda’r sioe deyrnged fwyaf dilys i Coldplay! Mae’r profiad byw ysblennydd hwn nid yn unig yn dal sain ac ysbryd un o fandiau mwya’r byd - mae'n eich gwneud chi'n rhan o'r sioe. Gyda bandiau arddwrn LED yn goleuo'r dorf, mae egni'r gerddoriaeth yn eich amgylchynu fel erioed o'r blaen!
Os ydych wedi bod yn ffan o Coldplay erioed neu jyst yn chwilio am noson allan fythgofiadwy, mae Sky Full of Stars yn cyflwyno perfformiadau disglair, effeithiau gweledol trawiadol ac awyrgylch sy'n dod â chaneuon mwyaf poblogaidd Coldplay yn fyw o ddifrif. O'r Viva La Vida anthemig i’r Sky Full of Stars galonogol, cewch yma’r holl ganeuon ‘rydych chi'n eu caru, gan gynnwys Clocks, Yellow, Paradise, a Hymn for the Weekend.
Felly, cipiwch eich tocynnau, dewch â'ch ffrindiau, a pharatowch am noson llawn cerddoriaeth, egni a momentau na fyddwch yn eu hanghofio.
*Parth Melyn Zone : Termau ac Amodau i'r Parth Melyn Zone YMA
Bydd y Parth Melyn hwn yn berthnasol ar gyfer y perfformiad hwn. Am hyd y perfformiad, bydd Balconi’r Gorllewin (y gellir ei gyrraedd trwy Ddrws F) yn barth di-alcohol. Mae hyn yn golygu y gall plant 7-11 oed fwynhau'r perfformiad, yng nghwmni’r oedolion sy'n dod gyda nhw, mewn amgylchedd sy'n addas i deuluoedd. Sylwch y caniateir alcohol i rannau eraill o'r awditoriwm, gyda chyfyngiad oedran o 12+ yn berthnasol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’r Parth Melyn, cysylltwch â'r tîm.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.