Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 18 Tach
·
Comedi

Event Info

Arferai gael breuddwydion, ‘nawr mae ganddi fabi. Enaid trist sy’n heneiddio, yn llawn llaeth ac edifeirwch.

Mae Madonna on the Rocks yn apêl angerddol, brydferth, hynod ddoniol o’r galon. Mae'n ymwneud â’r ego, cyfrifoldebau a'r frwydr i fod yn artist, neu i fod ag unrhyw yrfa o gwbl mewn gwirionedd, a bod yn rhiant gweddol ar yr un pryd. Gyda chaneuon a ysbrydolwyd gan Madonna, Peaches a Nina Simone.

Wedi'i hysgrifennu a'i pherfformio gan Marie Hamilton, ei chyfansoddi yn Berlin gan yr enillydd Gwobr Cameron Mackintosh, Ben Osborn, a’i chyfarwyddo gan Stephanie Kempson gyda dramayddiaeth gan Hildegard Ryan a Bryony Kimmings.

Enwebwyd ar gyfer Gwobr Gŵyl Ymylol Brighton; ymysg 10 Sioe Orau Gŵyl Ymylol Caeredin 2025 (Fergus Morgan The Crushbar, The Scotsman, The Stage)

“Delwedd drawiadol o famolaeth fel eicon ... yn bersonol ac yn ffres, yn amrwd ac eto’n ddoniol” ★★★★ The List

“Sioe ragorol. Yn hynod onest, yn ddwfn ac yn hanfodol bwysig” ★★★★ The Stage

“Mae’r sioe hon yn drysor. Yn adfywiol, yn glyfar, ac yn ddynol iawn. Peidiwch â’i cholli.” ★★★★Richard’s Theatre Reviews 

“Doniol, trist a hynod berthnasol. Adlewyrchiad gwir o famolaeth.” ★★★★ Little Local Edinburgh

“Ysblennydd … mae llwyfan neon disglair yn trawsnewid diflastod bywyd domestig yn hudoliaeth y byd adloniant. Hunan-ymwybodol heb fod yn rhy wybodus … buddugoliaeth.” ★★★★★Ed Fringe Reviews 

“Yn gwbl onest … yn llawn emosiwn ac yn atseinio’n ddwfn. Gadewais y theatr wedi f’ysgwyd - yn y ffordd orau.” One4Review

“Yn wallgof ac yn ysbrydoledig … syfrdanol. Mae Hamilton yn rhoi i ni gipolwg ar fomentau tywyll mamolaeth, sy’n troi’n orlethu ac unigedd, cyn dod o hyd i lygedyn o lawenydd yng nghanol y llanast. Ar ddiwedd y ddrama ‘roedd mam i ferch yn ei harddegau wrth f’ymyl yn wylo mewn undod..” Fest Magazine 

Instagram: @marierhymeswithgary 

Gwefan y sioe: mariehamilton.com 

Canllaw Oedran: 14+ oed

Rhediad: 70 munud, dim toriad

Iaith y perfformiad: Saesneg

Canllawiau Cynnwys: Iaith gref, themâu aeddfed, trafod iselder wedi cael babi

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Mercher 18 Tachwedd, 2026
19:45
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.