Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 26 Chw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Hwyl Dewi 2026 – Cadwch y Dyddiad! 

Dydd Iau 26 Chwefror 2026 | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth | Digwyddiad Am Ddim

Ymunwch â ni ar gyfer Hwyl Dewi, gŵyl undydd arbennig o gerddoriaeth fyw, llên a diwylliant i ddathlu Gŵyl Dewi. Bydd y digwyddiad yn dechrau o 10:00yb ymlaen ar draws Canolfan y Celfyddydau gyda pherfformiadau, gweithdai a digwyddiadau i bob oedran.

Perfformiadau Byw Mwynhewch Gerddoriaeth byw drwy’r dydd yng nghyntedd y Ganolfan, gyda:

·       Meinir Gwilym a’r Band

·       Lo‑fi Jones

·       Aelwyd Pantycelyn

·       Lowri Evans a Lee Mason

·       Cadog

·       Rhiannon O’Connor

·       Heledd Ifan

·       Côr Meibion y Mynydd

·       Côr Meibion Aberystwyth

Gweithdai a Gweithgareddau Amrywiaeth eang o weithgareddau i blant, teuluoedd ac oedolion, gan gynnwys:

·       Sesiwn Stori a Chân i blant

·       Gweithdy Lego

·       Gweithdy Ukelele

·       Sesiynau i ddysgwyr Cymraeg, gan gynnwys taith gerdded o amgylch campws y Brifysgol

Sgyrsiau a Chyflwyniadau

·       ‘What is Welsh / Beth yw’r Gymraeg?’ gyda’r Athro Mererid Hopwood a Mandi Morse.

·       ‘Croeso i Geredigion’ – sesiwn arbennig gan Cered i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am y sir a’r Gymraeg.

Ffilm a Bwyd

·       Yn y Sinema: dathliad o greadigrwydd y sîn gerddoriaeth amgen Gymreig.

·       Yn y Caffi: bwydlen arbennig o ddanteithion Cymreig.

Bydd yr amserlen lawn ar gael yn fuan!

Trefnir y digwyddiad gan Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Cered a Chanolfan y Celfyddydau, ac fe’i hariannir gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi, Llywodraeth Cymru.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Iau 26 Chwefror, 2026
00:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.