Event Info
Paul Thomas Anderson, UDA 2025, AD, 162 munud
Gan ennill chwe gwobr BAFTA (gan gynnwys Ffilm Orau) ac yn edrych fel ei bod hi’n debygol o gipio’r rhan fwyaf o’i thri ar ddeg enwebiad am Wobr yr Academi, mae ffilm glodwiw Paul Thomas Anderson yn serennu Leonardo DiCaprio, Sean Penn a Benicio Del Toro yn y stori am chwyldroadwr paranoiaidd sydd wedi colli’i ffordd, yn goroesi oddi ar y grid gyda’i ferch fywiog ac hunangynhaliol. Pan mae hen elyn yn ailymddangos ac mae ei ferch yn mynd ar goll, mae’n rhuthro i ddod o hyd iddi, gan wynebu canlyniadau ei orffennol chwyldroadol. Y cyfle perffaith i weld ffilm fwyaf poblogaidd eleni ar y sgrîn fawr!
15: Mae'r ffilm hon wedi cael ei chofrestru "15". Mae hynny'n golygu ei fod yn anaddas i unrhyw un sy'n iau na hynny. Mae'n drosedd caniatáu i unrhyw ei weld o dan yr oedran hwnnw, felly os nad ydych chi'n edrych yn ddigon hen, bydd angen gwireddiad oedran priodol arnoch i fynd i mewn. Diolch yn fawr a mwynhewch y ffilm.