Event Info
Sadwrn 3 Hydref, 8pm, 60 munud
Tocynnau: £18.00
Canolfan y Celfyddydau - Stiwdio 2D
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
16 oed+
Lee Martin ar ran Gag Reflex yn Cyflwyno …
Mae'r ddigrifwraig arobryn Sooz Kempner (Doctor Who’s Doom’s Day, The Now Show) wedi teimlo tipyn bach fel twyllwraig erioed. Ac eithrio mewn un maes: canu! Gallai ddibynnu ar HYNNY bob amser. Ond pan stopiodd llais Sooz weithio fel yr oedd wedi gwneud o'r blaen yn sydyn, ‘roedd yn rhaid iddi wynebu ei syndrom ‘twyllwr’ yn uniongyrchol a ffeindio allan unwaith ac am byth: ai syndrom ydyw, neu a yw hi yn dwyllwraig go iawn? Sioe stand-yp am ddod o hyd i'ch llais, tawelu amheuon a'r Dywysoges Diana.
"Brilliant" LA Times
★★★★★ West End Wilma
★★★★ The Scotsman
★★★★ Chortle
★★★★ Fest
★★★★ Broadway Baby
★★★★ Funny Women
★★★★ Broadway World
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.