Event Info
Sadwrn 3 Hydref, 6pm, 60 munud
Tocynnau: £14.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
16 oed+
Mae'r digrifwr aml-arobryn Ian Smith (cyd-gyflwynydd podlediad Northern News) yn dychwelyd i Fachynlleth gyda'i ail sioe a enwebwyd am Wobr Gomedi Caeredin - Foot Spa Half Empty. Sioe ddoniol iawn am straen, cariad a phrynu swyn hud ar Amazon.
Fel ‘rydych wedi’i weld ar Live at the Apollo, Have I Got News For You ac 8 Out of 10 Cats Does Countdown - a’i glywed ar The News Quiz, The Unbelievable Truth, Just A Minute a'i gyfres Radio 4 ei hun, Ian Smith is Stressed.
Mae’n feistr ar ddatblygu mater dibwys yn jôc llawn corff, gan adeiladu un o’r oriau mwyaf tynn a slic yn yr ŵyl Ymylol” ★★★★★ The Telegraph
“Gwych heb ymdrech” ★★★★ Scotsman
“Ychydig o sioeau ymylol sydd mor ddoniol â hon” ★★★★ Guardian
“Awr gythryblus o stand-yp eithriadol” ★★★★ Fest
“Mae Ian Smith yn troi anghrediniaeth yn ffurf gelf, gan gadarnhau ei statws fel y meistr diamheuol ar ddeunydd sy’n rhwygo’r nerfau” Rolling Stone
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.