Event Info
The Playboy of the Western World (12A) i’w gadarnhau
gan John Millington Synge, cyfarwyddir gan Caitríona McLaughlin
Mae Nicola Coughlan (Bridgerton) yn ymuno ag Éanna Hardwicke (The Sixth Commandment) a Siobhán McSweeney (Derry Girls) yn nrama gyfareddol John Millington Synge am ieuenctid a hunan-ddarganfyddiad. Mae bywyd Pegeen Flaherty yn cael ei droi ben i waered pan mae dyn ifanc yn cerdded i mewn i'w thafarn gan honni ei fod wedi lladd ei dad. Yn lle cael ei ddieithrio, mae'r llofrudd yn dod yn arwr lleol ac yn dechrau ennill calonnau - hynny yw, nes bod ail ddyn yn cyrraedd yn annisgwyl …
Wedi'i ffilmio'n fyw ar lwyfan yn y Theatr Genedlaethol, Caitríona McLaughlin sy’n cyfarwyddo'r stori dywyll, ddoniol hon sy'n llawn cyfrinachau.
150 munud i'w gadarnhau