Event Info
Canllaw Oedran: 16+ oed
Rhediad: 40 munud/toriad 15 munud/40 munud
Mae’r Clwb Comedi yn dychwelyd i’r Theatr Stiwdio yn ystod yr Haf eleni!
Emman Idama (MC) Mae Emman yn ddigrifwr Gwyddelig a anwyd yn Nigeria sydd â llais unigryw a'r gallu i ennill cynulleidfa drosodd yn llwyr. Yn ddigrifwr amlwg ar drydedd gyfres Comedy Central Live, mae Chortle yn disgrifio Emman fel "ffynhonnell egni byrlymus, yr union beth i gadw'r ysbryd i fyny." Gyda phersonoiaeth gynnes sy'n ei wneud yn berfformiwr hollol difyr o flaen tyrfaoedd yn Latitude, Gŵyl Gomedi Paddy Power, The Laughter Lounge Dulyn, Gŵyl Gomedi Vodafone a mwy, mae Emman wedi darparu cefnogaeth i Jamali Maddix, Seann Patton, Seann Walsh ac Eric Cantona, ac ef yw’r cyflwynydd yng Nglwb Comedi In Stitches, yn perfformio'r rhan fwyaf o nosweithiau'r wythnos yn ei dref enedigol, Dulyn.
Yuriko Kotani
Enillydd Gwobr Comedi Newydd y BBC
"Seren sy’n codi" Time Out
“Set wedi’i pherfformio’n wych, wedi’i strwythuro’n dda ac yn gwbl unigryw.” Fringebiscuit
Mae Yuriko Kotani yn gomedïwraig Siapaneaidd sy’n byw yn y DU. Cafodd ei henwi’n ‘un i’w gwylio’ gan Time Out ac enillodd Wobr Comedi Newydd y BBC yn 2015. Ymddangosodd ar ‘Mandy’ (BBC2), ‘The Horne Section TV Show’ (C4), ‘Russell Howard’s Stand Up Central’, ‘Pointless Celebrities’ (BBC1), ‘Pls Like’ (BBC3), ‘Paul Hollywood Eats Japan’ (C4), ‘Sorry, I Didn’t Know’ (ITV) a ‘Comedy Central Live’.
Matt Richardson
“Doniol iawn a Chyfareddol” - THE MIRROR
“Miniog, Doniol a Chynnes” - HEAT MAGAZINE”
Fel y’i gwelwyd ar Comedy Game Night, Roast Battle & Drunk History (Comedy Central), Nevermind The Buzzcocks (BBC2), Celebrity Juice, CelebAbility, The Stand Up Sketch Show cyfres 2 a 3, Hey Tracey, The Chase: Celebrity Christmas Special, The Chris Ramsey Show, Top Gear: Extra Gear, Love Island: Aftersun (ITV2), a bron unrhyw sioe ddeilliedig y gallwch ei henwi …
Canllaw Cynnwys: Iaith gref / rhai themau aeddfed
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.