Event Info
Canllaw Oedran: 16+ oed
Rhediad: 40 munud/toriad 15 munud/40 munud
Mae’r Clwb Comedi yn dychwelyd i’r Theatr Stiwdio yn ystod yr Haf eleni!
Cyflwynydd Rich Wilson
"Mae Wilson yn gwneud i cyfan i edrych mor ddiymdrech ... am stand-yp difyr, siaradus, di-addurn, mae Wilson yn gwybod sut i ddiddanu" Chortle
"Hynod ddifyr" - Time Out
"Mae’n ddyn doniol iawn, iawn" - Frank Skinner
“Tour-de-force.” Leicester Mercury
Shalaka Kurup
Mae Shalaka Kurup yn gomedïwraig stand-yp ac yn awdures o India. Disgrifiwyd ei hiwmor arsylwadol fel llawenydd heb wên. Yn feddyg o ran addysg ac yn gomedïwraig o ran dewis, mae Shalaka wedi gwneud argraff fawr ar gylchdaith comedi’r DU gan dderbyn gwobrau niferus. Enillodd Act Newydd y Flwyddyn y West End, daeth yn ail yn Act Newydd Komedia y Flwyddyn yn Brighton ac yn ail yng nghystadleuaeth Digrifwraig y Flwyddyn Leicester Mercury.
Mae ei pherfformiadau’n cynnwys cefnogi Eshaan Akbar a Ria Lina, a chafodd ei dewis ar gyfer Circuit Breakers and Pleasance Reserve Gŵyl Gomedi Caerlŷr yn 2023. Mae hi wedi serennu ar dymor 3 Comedy Central Live, Jokes Only A…Can Tell (Sianel 4 Digidol) a Sunday Morning Live (BBC1).
Morgan Rees
'Profodd ei hun yn feistr ar ailgyfeirio, gyda sawl golygfa yn cymryd tro annisgwyl mewn set llawn llinellau clo cryfion' - Chortle
'Yn amlwg ar ei ffordd i fyny’- Bruce Dessau
'Jôcs cyflym, troadau annisgwyl a straeon treigl' - The Sunday Times
'Rhagorol' - The Scotsman
Canllaw Cynnwys: Iaith gref / rhai themau aeddfed
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.