Event Info
Mae cwmni Harder Rock Productions yn falch i gyflwyno The UK Rock Show i chi.
Paratowch i gael eich cludo’n ôl i anterth roc clasurol yr 80au, gan gyfuno teimlad gŵyl roc gydag awyrgylch taith arena roc o’r radd flaenaf. Disgwyliwch dân gwyllt, fflamau, goleuo anhygoel a sylw gofalus i fanylion wrth i’r band 5-darn anhygoel hwn ail-greu caneuon poblogaidd gan fawrion y byd roc megis Journey, Aerosmith, Def Leppard, Bon Jovi, Kiss, AC/DC, Van Halen a llawer mwy!
Os ydych yn ffan o roc clasurol byw, dyma’r sioe i chi!
www.theukrockshow.co.uk
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG
Rhediad: 60 munud / toriad 20 munud / 60 munud
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: Bydd goleuadau strôb, 'pyrotechnics' a mwg yn cael eu defnyddio.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.