Event Info
Sadwrn 3 Hydref, 8pm, 60 munud
Tocynnau: £17.00
Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau - Stiwdio Ddawns 3
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
18 oed+
Yn dilyn taith a werthodd allan yn 2024, mae'r seren stand-yp ac ar-lein Morgan Rees yn ôl ar y ffordd gyda sioe newydd sbon hir-ddisgwyliedig.
Ar ôl i Morgan a'i bartner fynd ar wyliau ar wahân - un i Fforwm Mathemateg yng Nghofentri a'r llall i Barti Arth yn Barcelona - bu datgeliad enfawr yn gorfodi Morgan i ailasesu popeth. Cael ei wahardd o drenau Great Western, cael ei ddiswyddo fel Butler Noeth, a rhithio Paul McCartney … ai ef oedd ar fai am y cyfan mewn gwirionedd?
Ydi hynny wedi denu’ch sylw? Da iawn, oherwydd dyna'r unig stwff sy'n ddigon addas i'w gynnwys yma. Sioe stand-yp am dreialon a chamgymeriadau syrthio mewn cariad a chadw'r fflam yn fyw, y cyflwr limbo wrth aros am ddiagnosis, a'r profiad o fod yn fachgen gwyn o'r cymoedd yn integreiddio i deulu Gujarati balch. O, mae ganddo ddigon i siarad amdano.
Yn ogystal ag ennill miliynau o ymweliadau ar-lein ac adolygiadau gwych o’i sioeau byw, mae Morgan wedi cefnogi Joanne McNally, Rhys James, Lucy Beaumont a Jayde Adams ar daith; wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Comedi Newydd y BBC, ac mae'n cyflwyno'r podlediadau poblogaidd My Bad a Chatting With Cherubs ochr yn ochr â Josh Jones a Gearóid Farrelly.
"Jôcs chwim, troeon annisgwyl a straeon treigl" The Sunday Times
"Storiwr gwych... gyda chalon a chynhesrwydd aruthrol" ★★★★ The Scotsman
"Hynod ddoniol" ★★★★ Entertainment Now
"’Roeddwn yn chwerthin yn ddi-baid" ★★★★ Broadway Baby
★★★★ The Skinny
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.