Event Info
Sul 4 Hydref, 6pm, 60 munud
Tocynnau: £17.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
16 oed+
A ydych erioed wedi gor-feddwl yn fforensig am eich dewisiadau mewn bywyd? A ydynt i gyd rywsut yn gysylltiedig â sylw didaro a wnaethpwyd gan eich athro Sbaeneg pan oeddech yn 15 oed? A yw hwnnw wedi effeithio ar bopeth - o’ch bywyd personol i'ch gyrfa?
Yn dilyn sioeau a werthodd allan ledled y DU, Gŵyl Ymylol Caeredin a Theatr Soho, mae Celya AB (“Un o ysgrifenwyr jôcs mwyaf dawnus ei chyfnod” - Chortle) yn ôl gyda sioe newydd a'i brand unigryw o jôcs a sylwadau miniog “eithriadol, heb sôn am drawiadol o wreiddiol” (Canllaw Comedi Brydeinig).
Mae hon yn sioe am dorri'n rhydd rhag gywilydd, a'r hyn sy'n dilyn pan wnewch chi hynny.
Fel y’i gwelwyd ar Live At The Apollo, podlediad Off Menu a Comedy Central Live.
‘Dawn wych i greu llinellau clo byrion, cofiadwy’
★★★★ Scotsman
‘Mae hi wedi hawlio ei choron a'i meistrolaeth dros y ffurf gelf stand-yp’
★★★★★ Pepper & Salt
‘Mae ei jôcs yn slic, ei llinellau sengl yn finiog, ac mae ei ffraethineb pigog a'i hanesion bachog yn syfrdanu'r meddwl’
★★★★ Entertainment Now
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.