Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 17 Hyd
·
Theatr

Event Info

WYTHNOS YNG NGHYMRU FYDD

Mae o wedi gweld y dyfodol. Dwywaith. 

 Mae Ifan yn byw ar yr ymyl. Yn cadw pawb hyd braich, yn yfed yn galed, yn chwerthin yn uwch na neb arall. Dydy o byth yn edrych yn ôl. Ond mae un person yn aros yn ei feddwl - Mair. Wrth i storm wleidyddol godi yng Ngogledd Cymru, mae Ifan yn cael ei daflu ymlaen ddegawdau mewn amser. Dwywaith. Mae un dyfodol yn cynnig Cymru rydd yn llawn cariad a gobaith. Mae’r llall yn fyd llwm heb iaith, ffiniau, a chymuned. Yn y ddau fyd mae Mair. Rhyngddynt mae’r presennol - a rhaid i Ifan ddewis. Yn llawn cariad, emosiwn a chynnwrf gwleidyddol, mae Wythnos yng Nghymru Fydd, wedi’i ysgrifennu gan Mared Llywelyn Williams a’i chyfarwyddo gan Gethin Evans, yn ail-ddychmygiad beiddgar o glasur Islwyn Ffowc Elis sy’n gofyn pa ddyfodol sy’n cael ei greu gan ein heddiw?

** Grwpiau Ysgolion - Plentyn £10.00 (1 athro am ddim gyda phob 10 plentyn) **

Canllaw Oedran: 12+ oed

Rhediad: I’w ddilyn

** Tocynnau Ysgolion - Plentyn £10.00 (Un athro am ddim gyda phob 10 plentyn) ** Cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau i archebu.

Iaith y perfformiad: Cymraeg gyda chapsiynau Saesneg

Canllawiau Cynnwys: I’w ddilyn

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Sadwrn 17 Hydref, 2026
14:30
Dydd Sadwrn 17 Hydref, 2026
19:30
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.