Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 14 Tach
·
Cerddoriaeth

Event Info

Mae'r sioe y mae pob ffan o gerddoriaeth wlad wedi bod yn aros amdani yn dod i Aberystwyth!

Mae cerddoriaeth wlad wedi gweld adfywiad mawr mewn poblogrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag enwau megis The Shires, Taylor Swift a Lady Antebellum yn dod â'u steil cyfoes eu hunain i'r genre. Mae'r artistiaid hyn, ynghyd â'r sioe deledu Americanaidd boblogaidd Nashville, wedi cyflwyno cerddoriaeth wlad i gynulleidfa ifanc, newydd enfawr.

Mae A Country Night in Nashville yn ail-greu sîn Honky Tonk bywiog yng nghanol dinas Nashville, gan gyfleu’n berffaith egni ac awyrgylch noson o’r math sy’n mynd â chi ar daith trwy hanes cerddoriaeth wlad, gan gynnwys caneuon y sêr mwyaf yn y maes, o'r gorffennol a'r presennol. Cynhwysir caneuon gan artistiaid megis Johnny Nash, Alan Jackson, Dolly, The Chicks, Willie Nelson a Kacey Musgraves, y cyfan yn cael eu perfformio’n wych gan Dominic Halpin & The Hurricanes.

Gyda chaneuon yn cynnwys Ring Of Fire, Crazy, Follow Your Arrow, It’s Five o’clock Somewhere, Need You Now, 9-5, a The Gambler i enwi ond ychydig, mae’r dathliad anhygoel hwn o gerddoriaeth wlad yn noson na ddylid ei methu!

Peth cerddoriaeth glasurol, peth cerddoriaeth newydd, ond y cyfan yn gerddoriaeth wlad wych!

Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG

Rhediad: 60 munud/ toriad 20 munud/ 65 munud

Iaith y perfformiad: Saesneg

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Sadwrn 14 Tachwedd, 2026
20:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.