Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 2 Hyd
·
Comedi

Event Info

Nos Wener 2 Hydref, 7pm, 60 munud

Tocynnau: £14.00

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

16 oed+

Little Wander mewn cydweithrediad â PBJ Management yn cyflwyno …

Amy Matthews: Definitions of Toast

TOST /təʊst/

(berf): Rhoi gwres gan greu newid di-droi’n-ôl. Ni all tost fod yn fara byth eto.

(enw, anffurfiol): Rhywbeth sydd wedi gorffen / drosodd, neu wedi'i dynghedu

(enw): Y weithred o anrhydeddu teimlad trwy godi gwydr, yn aml i ddechreuadau newydd.

Nid yw Amy yn mynd yn flin ac mae hi'n dechrau teimlo ei bod wedi'i gadael allan, felly mae hi ar daith i deimlo cynddaredd; o'r hyn y gall weld o'r byd o'i chwmpas, mae'n ymddangos bod cynddaredd yn beth poblogaidd iawn ...

Mae Amy yn llywio llawenydd ei pherthynas hoyw gyntaf wrth iddi gael gwared ar nifer o bartneriaid alcoholaidd. Byddech chi'n meddwl y byddai ganddi ddigon i fod yn flin amdano, ac eto, er bod pawb yn ymddangos yn fwy cynddeiriog nag erioed, mae hi'n methu’n lân â dod o hyd i’w dicter ei hun - felly mae hi wedi herio ei hun i ddysgu.

Mae'n bosibl bod y diffyg ddicter hwn hefyd yn gysylltiedig â diffyg prosesu sy'n dod yn fwyfwy aflonyddgar - a doniol - yn ei bywyd. ‘Roedd yn ymddangos bod ei hemosiynau'n cael eu danfon gan golomen gludo, os ydynt yn cyrraedd o gwbl.

Mae hon yn sioe am ennill gwobr am yr Actor Cefnogol Gorau yn eich bywyd eich hun, am harddwch derbyn yn llawn eich bod yn hoyw yn eich 30au, a'r ffaith y gall dicter weithiau edrych yn fwy fel rhigymau plant a chrio ar feic na dyrnu waliau a gweiddi. Mae'n werth crybwyll bod y sioe hon hefyd yn ceisio deall pam mae mam Amy wedi dechrau cadw llaeth yng nghist ei char, sut y gallai diod o 2002 fod wedi melltithio'r byd, a sut y daeth ffrae ar y palmant gydag aderyn yn foment dyngedfennol.

Fel y’i gwelir ar: I Feel Like I’m Made of Spider’ (ITVx), Comedy Central Live, Gifted (BBC) a Scot Squad a enillodd wobr BAFTA.

A’i chlywir ar: Off Menu, Dan Does Dating (BBC Radio 4), cyflwynydd podlediad swyddogol English Heritage a sgriptwraig ar gyfer Have I Got News For You? (BBC One)

Yn cefnogi ar daith: Ed Byrne, Josh Widdicombe, Suzi Ruffell, Tom Allen, Sarah Keyworth, Jason Manford, Tom Davis a Jessica Fostekew.

“Drily funny and giddily quirky.” (The Scotsman)

“Combining a relaxed charm with a searing wit, she makes the deeply personal feel like a universal truth.” (Rolling Stone)

“Technically flawless.” (British Comedy Guide)

“Matthews treads the line between stand-up and troubadour.” (Manchester Wire)

“The whimsy, the tales, the cleverness.” (Punchline)

★★★★★ “Immaculately delivered and written.” (One4Review)

★★★★★ “Insanely original.” (Broadway Baby)

★★★★ “Like Lily Allen.” (Broadway World)

★★★★ (The Skinny)

★★★★ (The List)

★★★★ (The Wee Review)

★★★★ (Ed Review)

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 02 Hydref, 2026
19:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.