Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 2 Hyd
·
Comedi

Event Info

Nos Wener 2 Hydref, 7.30pm, 110 munud

Tocynnau: £30.00

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

Mae'r amser wedi dod i'r ddeuawd gomedi gerddorol glodwiw Flo a Joan ysgrifennu bywgraffiad arall wrth iddynt ddychwelyd i'r llwyfan gyda’u sioe newydd sbon hir- ddisgwyliedig.

“Ew, mae nhw bron fel band go iawn” (Bruce Dessau, Beyond a Joke). Bydd y ddwy yn ceisio cymryd cymaint o'r llwyfan a chyn lleied o'ch amynedd â phosibl wrth iddynt ddefnyddio rhestr-set "band go iawn" arall i ysgrifennu eu sioe eu hunain - gan fyfyrio yn eu ffordd finiog, ddi-wên, ddigyffelyb ar themâu fel 'beth yw cerddoriaeth?', 'sut ydych yn creu band?', ac 'a ydyw’n gomedi?'

Fel y gwelwyd ar Live at the Apollo, Y Sioe Adloniant Frenhinol, Red Nose Day Live 2023 Comic Relief a'u rhaglen gomedi arbennig eu hunain 'Alive on Stage' ar gyfer Amazon Prime.

“Nid yw comedi gerddorol wedi bod mewn dwylo mor ddiogel ers blynyddoedd” The List

“Gwirioneddol eithriadol” Rolling Stone

“Eithriadol... Sioe Gomedi Rhif 1 2024” y Guardian

“Bydd y perfformiad hwn, sydd wedi’i grefftio’n gymhleth a’i gyflwyno’n berffaith, yn cael chi yn eich dyblau’n chwerthin un munud, ac yn sychu deigryn y munud nesaf” y Telegraph ★★★★

“Mae Flo a Joan yn llenwi bob eiliad gyda jôcs, jôcs, jôcs” y Times ★★★★

“Mae nhw jyst wedi stwffio jôcs i mewn ... wedi’u hysgrifennu’n wych, wedi’u perfformio’n wych” The Stage ★★★★★

“Ar yr olwg gyntaf maent yn ymddangos fel act ddwbl gerddorol hwyliog, ond rhwygir yr argraff honno’n ddarnau tua dau far i mewn i'r gân gyntaf, sydd wedi'i hamseru'n berffaith” Sunday Times ★★★★

“Mae eu steil yn finiog iawn, eu geiriad yn berffaith wrth iddynt rasio trwy eu rhigymau cymhleth” Evening Standard

“Gwych iawn” ★★★★ Chortle

16 oed+

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 02 Hydref, 2026
19:30
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.