Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 2 Hyd
·
Comedi

Event Info

Gwener 3 Hydref, 7pm, 70 munud

Tocynnau: £21.00

PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth

16 oed+

Gag Reflex mewn cydweithrediad â A Rush of Laughter yn cyflwyno

Ignacio Lopez: Nada

Mae Ignacio Lopez, seren Live At The Apollo, Have I Got News For You, QI, Richard Osman's House of Games a Comedy Central Live yn ôl gydag efallai ei brosiect mwyaf uchelgeisiol ac ymhongar hyd yma.

Nada yw'r arbrawf comedi gafaelgar sy'n gweld Allforyn Gorau Sbaen yn creu sioe stand-yp newydd sbon, hollol unigryw a hynod ddoniol o flaen eich llygaid, allan o ddim byd o gwbl!

Gan dynnu ar ei fagwraeth ddoniol amrywiol ym Mallorca a De Cymru, yn ogystal ag awgrymiadau gan y dorf, a phopeth y mae wedi dysgu wrth berfformio comedi ers 2010, mae Ignacio yn creu stori gymhleth o ddirgelwch a chyffro yn llawn coegni, gwiriondeb a chwerthin.

Yn ogystal â syfrdanu gwylwyr gyda'i ffraethineb chwim a'i bersonoliaeth hynaws ar bron bob sianel deledu yn y DU, mae talentau Ignacio wedi mynd ag ef i’r holl glybiau comedi gorau, ar fordeithiau ac i sioeau corfforaethol a milwrol ledled y byd. Dyma sioe unigryw na ddylid ei methu yn sicr!

★★★★★ “Swynol, carismatig, doniol iawn. Byddwch yn gadael gyda gwên ar eich wyneb”Deadline News

★★★★1/2 “Athrylith gomedi ar waith. Ffraethineb miniog wedi'i gymysgu gyda dos o'r gwirion. Rhaid gweld hwn!” One4Review

Tocynnau Hynt

Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.

Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.

Ardoll Wella

Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 02 Hydref, 2026
19:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.