Event Info
Sadwrn 3 Hydref, 2yp, 60 munud
Tocynnau: £22.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
14 oed+
Ganwyd y meteor cerddorol Jazz Emu i'ch plesio chi.
Boddhad Cynulleidfa Llawn a Llwyr yw ei enw canol - o'r diwedd, ar ôl mynd trwy broses cyfreithiol hir a chostus i newid ei enw.
Ond mae'n teimlo'n anesmwyth. Disgrifiodd un adolygydd ei sioe ddiwethaf fel 'ychydig yn ormod'. Beth? A oedd ei berfformiad ar y llwyfan yn rhy chwaethus? Dim y tro hwn. Y tro hwn, mae'n byw i fyny i’w enw canol.
Yn dilyn taith yn yr Unol Daleithiau, cyfnod buddugoliaethus yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a rhediadau a werthodd allan yn Llundain, mae Jazz Emu yn ôl ar daith gydag odysé gerddorol newydd sbon.
Daeth Jazz Emu i amlygrwydd ar-lein - gyda’i fideos a’i ganeuon yn derbyn cannoedd o filiynau o wyliadau/ffrydiau - cyn dod â’i frand arbennig o feistrolaeth gomedi i’r byd go iawn. Ers hynny mae wedi ymddangos ar 8 Out of 10 Cats does Countdown, wedi ennill llu o wobrau ac wedi cael ei restru fel y 26ain Digrifwr Doniolaf yn yr unfed ganrif ar hugain gan y Telegraph.
‘Roedd ei sioe ddiweddaraf ymhlith y Sioeau a gafodd yr Adolygiadau Gorau yng ngŵyl ymylol Caeredin 2025 (Canllaw Comedi Prydain) ac fe’i rhestrwyd fel un o Sioeau Euraidd yr ŵyl 2025 gan y Guardian.
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.