Event Info
Gwener 2 Hydref, 9pm, 60 munud
Tocynnau: £19.00
PRYNWCH DOCYNNAU YMA yn uniongyrchol o Ŵyl Gomedi Aberystwyth
18 oed+
Little Wander yn cyflwyno…
Mae Robert White yn mynd ar daith gyda sioe newydd sbon!
Os ydych yn ffan o'i gyfres o Britain's Got Talent, neu'n un o'i filiynau o wylwyr ar-lein ond dim ond ‘nawr yn sylweddoli mai Robert yw'r Boi Comedi Allweddell Awtistig Hoyw ‘HWNNW’, byddwch am weld ei gymysgedd o ganeuon, straeon, stand-yp, jôcs, propiau, gwaith byrfyfyr, rhyngweithio a phob math o wiriondeb drygionus difyr arall yn ogystal!
“Creadur rhyfedd ffantastig, doniol iawn” Time Out
“... caneuon risqué yn seiliedig ar allweddell, sylwadau pigog a mursendod niwrotig gan ddyn gorfywiog sydd ymysg y rhai mwyaf gwreiddiol” Telegraph
“Rydych yn gwbl unigryw, yn fympwyol iawn, yn ddrygionus ac yn ddoniol iawn ... ‘rydym yn eich hoffi!” Simon Cowell
Credyd y llun: @voodoocreationsphotography
Tocynnau Hynt
Mae angen i aelodau Hynt gysylltu â boxoffice@littlewander.co.uk gyda’u rhif aelodaeth cyn prynu tocynnau fel y gellir gosod eu manylion ar ein system mewn da bryd.
Cliciwch yma i ffeindio allan os ydych chi neu’r person yr ydych yn gofalu amdano yn gymwys ar gyfer cerdyn Hynt neu gliciwch yma i wneud cais.
Ardoll Wella
Mae £2.00 o bris y tocyn fel y’i hysbysebir ar-lein yn mynd at Ŵyl Gomedi Aberystwyth er mwyn parhau i ddatblygu a gwella’r ŵyl.