Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 14 Tach
·
Sinema

Event Info

Bob blwyddyn mae Abertoir yn gwahodd ffilmwyr o bob cwr o'r byd i gyflwyno ffilmiau byr ar gyfer Cystadleuaeth Ffilmiau Byr Abertoir. Fel bob tro, bu’r ymateb yn rhagorol ac nid yw'n bosibl dangos yr holl enwebiadau anhygoel. Mae dwy wobr ar gael. Y gyntaf yw Gwobr y Gynulleidfa am y Ffilm Fyr Gorau, a'r ail yw Méliès d’argent a roddir i'r ffilm fer Ewropeaidd orau.

Imposter Syndrome (Jennifer Rosquiez, Mecsico, 12:31)

Mae Elías yn ddyn ifanc sydd, ar ôl dechrau llwyddiannus iawn fel awdur arswyd, bellach yn llawn ansicrwydd ac wedi'i rwystro'n greadigol. Mae'n mynd at Mercedes, ei therapydd dibynadwy. Yn ystod sesiwn therapi, mae Elías yn datgelu beth ddigwyddodd y tro diwethaf iddo geisio ysgrifennu, ynghyd â'r digwyddiadau dirgel ac ofnadwy sy'n ymwneud â'i broses greadigol. A yw Elías yn dioddef o syndrom yr impostor? Neu a yw'n cael ei ddylanwadu gan rywbeth hynafol ac ofnadwy?

In (Van Poynton, Iwerddon, 03:00)

Chwip o ddifyrrwch. Arswyd seicolegol rhyfedd a bywiog, cyfuniad hypnotig o realaeth amrwd a ffantasi digyfyngiad.

Inebriated (Max r Lincoln, DU, 11:35)

I achub ei chariad sydd wedi’i feddiannu, rhaid i Van wynebu ei chythreuliaid, gan ddechrau gyda’i rhieni.

Not too bad (Anna Carbonell Lacárcel, Sbaen, 12:23)

Bydd Mireia a Laia yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniad cwbl ddi-hid er mwyn cael y swydd maen nhw'n hiraethu amdani.

OK / NOT OK (Pardeep Sahota, DU, 12:49)

Stori garu sy'n plygu genres ac sydd wedi’i osod yn y dyfodol agos iawn gydag ymyl gomig dywyll. Mae Loretta, menyw Asiaidd Brydeinig o'r dosbarth gweithiol, yn ceisio llywio byd cythryblus, dieithryn newydd yn ei bywyd, ac hysbysebion nad oes modd eu sgipio.

Obey! (Jordan Wippell, UDA, 11:07)

Ar ôl marwolaeth drasig ei chi feiral, Max, mae dylanwadwr anifeiliaid anwes yn wynebu ysbryd dialgar sy'n mynnu ymddiheuriad am fywyd o gamfanteisio.

Planetagatik (Eneko Muruzabal Elezcano, Sbaen, 09:35)

Mewn labordy ymchwil bwyd aseptig, mae Mario a Karla yn ddau wyddonydd sy'n delio â chyfres o reoliadau amgylcheddol sy'n mynd yn fwyfwy llym. Pan fydd y rhain yn cyrraedd lefelau abswrd, mae Mario yn penderfynu troi at ei fos am ateb.

Into The Stand (Mackenzie Hamilton, Canada, 14:41)

Mae'r planwyr coed Quinn a Rosa yn dychwelyd i'r gwersyll am haf arall yn y gwyllt. Mae Rosa newydd sobreiddio, ac mae Quinn yn dawel bryderus ynglŷn â sut y bydd hi'n ymdopi â diwylliant parti caled y gwersyll. Yn y parti croeso, mae Rosa yn cael ei themtio i yfed, sy’n annog Quinn i ymyrryd. Wedi'i hysgwyd, mae Rosa yn mynd i'r goedwig i glirio ei phen, ond nid yw'n dod yn ôl.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 14 Tachwedd, 2025
10:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.