Event Info
(George A. Romero, UDA 1973, 104 mun) + C&A LYNN LOWRY
Pan mae awyren sy'n cario arf biolegol cyfrinachol yn glanio ger tref fach, wledig, mae'r ardal yn troi i anhrefn. Wedi'u heintio â firws sy'n eu hanfon i wallgofrwydd llofruddiol, mae'r bobl leol yn troi yn erbyn ei gilydd mewn orgi o drais gwaedlyd. Wrth i'r fyddin gau'r dref i ffwrdd ac asiantau'r llywodraeth yn gwrthdaro â gwyddonwyr dros y camau gweithredu priodol, mae criw bach o oroeswyr yn ceisio gwneud eu ffordd i ddiogelwch.
Ffilm sy'n parhau i fod mor amserol ag yr oedd erioed, ac sy'n ymddangos yn fwy dylanwadol gyda threigl amser, mae The Crazies yn bortread aflonydd o ofn ac anallu. Gyda thro gwirioneddol eiconig gan ein gwestai Lynn Lowry, The Crazies yw'r tro cyntaf - rywsut! - i ni erioed ddangos ffilm gan George A. Romero yn Abertoir. Dyna wallgof, de?