Event Info
Ar gopa mynydd pell, mae adar yn casglu i ddwylo hen ŵr mynyddog, ddwylo sydd yn llunio ffawd. Mae straeon yn troelli yng nghanol cwmwl o adenydd, yn aros i hedfan drwodd i’r byd dynol.
Yn y cynhyrchiad newydd yma gan Harebell Tellers, mae chwedleuwyr traddodiadol Ailsa Dixon a Ffion Phillips yn dilyn mytholeg ein hadar ar eu llwybrau hedeg ar draws Prydain hynafol.
Trwy gydblethu’r Gymraeg a Scoteg, cerddoriaeth a stori mewn awr fyfyriol a hudolus.
Canllaw Oedran: 12+ oed
Rhediad: 75 munud dim toriad
Iaith y perfformiad: Saesneg, Cymraeg, Albanaidd
Canllawiau Cynnwys: Disgrifiadau o drais a galar
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.