Event Info
Katsuhiro Otomo, Siapan 1988, 125 munud, is-deitlau
Wedi'i hail-feistroli mewn 4K, dyma'r ffordd orau i fwynhau'r campwaith eiconig ac arloesol hwn i’r eithaf. Chwalodd clasur seiberbwnc nodedig Katsuhiro Otomo ffiniau animeiddio Siapaneaidd gan orfodi'r byd i edrych i'r dyfodol, gan gefnu ar feddwl traddodiadol a chreu lle am genedlaethau o ffilmiau arloesol yn y dyfodol. Neo-Tokyo: y dyfodol. Kaneda yw arweinydd grŵp o dramgwyddwyr ifanc, sy'n rhuthro trwy'r diffeithwch trefol ar eu beiciau modur. Un noson tra’n reidio gyda'i gang, mae ei ffrind Tetsuo yn dod ar draws bachgen rhyfedd, cynnyrch arbrofi dynol, ac mae'r ddau yn cael eu cipio i ffwrdd gan y fyddin. Yn benderfynol o ryddhau ei ffrind, mae Kaneda yn sleifio i mewn i labordy ymchwil y fyddin i ddod o hyd iddo, lle mae'n darganfod bod arbrofion y fyddin wedi deffro pŵer newydd yn Tetsuo, a gwallgofrwydd peryglus…