Ewch at gynnwys
Event Image
Maw 17 Chw
·
Teulu

Event Info

Canllaw Oedran: 2 - 6 oed

Rhediad: 40 munud dim toriad

Stori gynhesol am bwysigrwydd cysylltu ag eraill, hyd yn oed pan nad yw'r llwybr bob amser yn llyfn. Yn cynnwys pypedwaith, planhigion a llawer o botiau, mae'r sioe ddeugain-munud hon wedi'i chreu i ddifyrru plant 2-6 oed a'u hoedolion.

Tîm creadigol:

Cyfarwyddir gan Rosie Tricks a Marc Parrett

Perfformir gan Lucia d’Inverno a Jasmine Orchard

Dyluniad y Pypedau Jasmine Orchard a Marc Parrett

Ffotograffiaeth a fideograffi gan 12:42 studios

Gwisgoedd gan Jasmine Orchard

Gwaith celf gan Dani Mayes

Cynhyrchir gan Scarlet Oak Theatre 

www.facebook.com/scarletoaktheatre

www.twitter.co.uk/scarletoakUK 

www.instagram.com/scarletoaktheatre 

#ScarletOakTheatre #AlongCameAMagpie 

Oddi wrth y tîm creadigol y tu ôl i The Zoo That Comes To You. Cyfarfu Jasmine Orchard a Lucia d’Inverno tra ‘roeddent yn hyfforddi yn Circomedia, canolfan ar gyfer syrcas a theatr gorfforol gyfoes. Mae'r ddwy artist â phrofiad o weithio mewn amrywiaeth o leoliadau addysgiadol - theatrau ieuenctid, dosbarthiadau synhwyraidd babanod, ysgolion a grwpiau addysg gartref. Gyda'u profiad proffesiynol o actio, pypedwaith, cyfarwyddo a chynhyrchu, ffurfiwyd Theatr Scarlet Oak yn 2019, cwmni sydd wedi ymrwymo i greu theatr sy’n hygyrch ac yn ddengar i blant ac oedolion fel ei gilydd.

Adolygiadau

“Mae Theatr Scarlet Oak yn creu gwaith chwareus a diddorol y gall pobl ifanc a’u teuluoedd ei fwynhau gyda’i gilydd. Mae ganddynt arddull hwyliog ac maent bob amser yn gadael ein cynulleidfaoedd yn gwenu gyda phob perfformiad.” - Adam Fuller, Cyd-Gyfarwyddwr Creadigol @ Front Room Theatre, Weston-super-mare

“Stori gynhesol am gyfeillgarwch, cyfaddawd a’r llawenydd o rannu paned o de” - Aelod o’r gynulleidfa

Hygyrchedd: Teithiau cyffwrdd ar gael - cysyllter â’r Swyddfa Docynnau..

Ychydig iawn o ddeialog ar lafar a geir yn y perfformiad hwn.

Os oes gan unrhyw un o’ch cwsmeriaid ddiddordeb mewn mynychu’r sioe ond yn poeni na fydd eu plentyn yn medru eistedd i lawr am y sioe gyfan, gallwch eu sicrhau ein bod yn hapus iawn i aelodau'r gynulleidfa symud/gadael a dod yn ôl/beth bynnag sydd ei angen arnynt i fod yn gyfforddus.

Iaith y perfformiad: Saesneg

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Mawrth 17 Chwefror, 2026
11:00
Dydd Mawrth 17 Chwefror, 2026
14:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.