Event Info
Canllaw Oedran: 10+
Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
AMY DOWDEN & CARLOS GU: REBORN
Ar ôl dychwelyd yn hynod lwyddiannus i lawr dawns ‘Strictly Come Dancing’, mae Amy Dowden MBE, yng nghwmni seren arall ‘Strictly’, Carlos Gu, yn teimlo'n wirioneddol ei bod wedi’i hail-eni.
Yn ôl ar y llwyfan yn dilyn tymor cyntaf buddugoliaethus a chlodwiw, mae Amy a Carlos yn rhannu portread agos-atoch o'u bywydau a'u teithiau, lle mae pŵer ysbrydoledig a thrawsnewidiol dawns yn disgleirio drwodd.
Gyda chast gwych o ddawnswyr o'r safon uchaf, cantorion byw anhygoel, a thrac sain o anthemau eiconig ar draws y degawdau, bydd y sioe yn cludo cynulleidfaoedd ar daith emosiynol a dyrchafol trwy berfformiadau ysgubol.
Amy & Carlos: Mae’r sioe hon yn dystiolaeth wirioneddol o lawenydd dawnsio..
‘Strafagansa ddathliadol, galonogol’ Seen & Heard International
‘Mae lefel yr egni yn anhygoel … Perffeithrwydd pur.’ Glasgow Theatre
'VIP/Meet & Greet'
'Meet & Greet' ar gael cyn y sioe -ARCHEBWCH YMA
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.