Event Info
Sharon Maguire, y DU 2001, 97 munud
A fedrwch gredu bod y ffilm Bridget Jones wreiddol bellach yn 25 oed? Yn ôl mewn sinemâu ar gyfer ei phenblwydd, dyma ymddangosiad cyntaf Renee Zellweger fel y Bridget Jones gyffredin iawn, dynes ifanc sy'n brwydro yn erbyn ei hoedran, ei phwysau, ei swydd, ei methiant i ffeindio dyn a'i diffygion niferus. Mae pethau'n dechrau newid fodd bynnag pan mae ei bὸs amheus (Hugh Grant) yn cymryd diddordeb ynddi, ynghyd ag un o'i chydnabod ei hun, sy'n eithaf annymunol a sur (Colin Firth), na all hi helpu ei ffeindio’n ddeniadol ...