Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 19 Chw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG ( Caniateir alcohol )

PARTH MELYN ZONE: Canllaw Oedran: 7+ oed ( Ni chaniateir alcohol )*

Rhediad: 80 munud heb toriad

Iaith y perfformiad: Cymraeg & Saesneg

Fydd Catrin Finch yn perfformio Notes to Self, gyfres o draciau myfyriol a phersonol Newydd y mae hi wedi’u chyfansoddi ar gyfer Katy, hi ei hun yn 13 oed, a’i halbwm cyntaf o gyfansoddiadau unigol mewn degawd.

Gyda llythyrau cysylltiedig yn tanlinellu myfyrdod dwfn ei thaith bersonol, mae Notes to Self yn plethu ei phrofiadau, ei hemosiynau a’i myfyrdodau at ei gilydd.Trwy ei cherddoriaeth, mae hi’n archwilio themâu o fregusrwydd, disgwyliad, trawsnewidiad ac anrhagweladwyedd bywyd sy’n cael ei chwarae allan o dan lygad y cyhoedd. Mae pob cyfansoddiad yn tynnu ar ei gorffennol; gyrfa 40 mlynedd fel un o artistiaid mwyaf anturus ac arloesol ei chenhedlaeth.

Mae ei gonestrwydd a’i dewrder parhaus yn atseinio, gan wahodd gwrandawyr i gysylltu’n ddwfn a’i stori, wrth iddi droi ei brwydrau a’i llwyddiannau i sain.Nid yn unig y mae Notes to Self yn arddangos esblygiad Catrin fel cerddor, ond mae hefyd yn nodi gyrfa nodedig a lluniwyd gan ei phrofiadau fel menyw hoyw, goroeswr canser, chwaer, merch a mam.

Mae Notes to Self yn gam i mewn i ddimensiwn creadigol newydd i’r delynores ryfeddol hon, y mae ei gyrfa’n cymryd troeon newydd gyda phob prosiect newydd.

*Parth Melyn Zone : Termau ac Amodau i'r Parth Melyn Zone YMA

Bydd y Parth Melyn hwn yn berthnasol ar gyfer y perfformiad hwn. Am hyd y perfformiad, bydd Balconi’r Gorllewin (y gellir ei gyrraedd trwy Ddrws F) yn barth di-alcohol. Mae hyn yn golygu y gall plant 7-11 oed fwynhau'r perfformiad, yng nghwmni’r oedolion sy'n dod gyda nhw, mewn amgylchedd sy'n addas i deuluoedd. Sylwch y caniateir alcohol i rannau eraill o'r awditoriwm, gyda chyfyngiad oedran o 12+ yn berthnasol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’r Parth Melyn, cysylltwch â'r tîm.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 19 Chwefror, 2027
20:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.