Event Info
Canllaw Oedran: 16+ oed
Rhediad: 40 munud/toriad 15 munud/40 munud
Mae’r Clwb Comedi yn dychwelyd i’r Theatr Stiwdio yn ystod y Gwanwyn eleni!
Leroy Brito
Fel y’i gwelwyd ar BBC Sesh a Tourist Trap BBC Wales
“Un o sêr esgynnol Comedi Gymreig” What’s On Stage “Presenoldeb cryf ar y llwyfan, jôcs gwych a rhywbeth sy’n wahanol i’r cyffredin“ The Glee Club “Comedi glyfar, ‘roedd yn wledd i’w gwylio” FwyCardiff
Carwyn Blayney
Yn dod yn wreiddiol o gefn gwlad Ceredigion, mae Carwyn Blayney yn ddigrifwr ac yn actor fel y’i gwelwyd a’i glywyd ar BBC One, S4C a Radio Wales gyda chredydau comedi ar BBC Radio Four, BBC yr Alban a BBC Cymru.
Enillodd Wobr Wales Unsigned Stand Up 2024, cyrhaeddodd rownd derfynol So You Think You’re Funny? yn 2023 ac mae wedi cefnogi Elis James ar daith. Hefyd, mae’n werth nodi bod ganddo wobr efydd Dug Caeredin er gwaethaf cael trafferth gyda chlefyd y gwair o bryd i’w gilydd.
Bethany Black
Mae'r stand-yp clodwiw Bethany Black yn un o hoelion wyth y sîn a gellir ei gweld yn perfformio ledled y wlad, fel "un o storïwyr min nos gorau cylchdaith y DU" (British Comedy Guide). Hefyd yn awdures ac yn actores lwyddiannus, efallai y byddwch yn nabod Bethany o'i rolau yn Cucumber, Banana, Tofu (C4), No Offense (C4) a Doctor Who (BBC). Enillydd gwobr gomedi Joe.co.uk2020.
Enillodd sioe ddiweddaraf Bethany yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, Unwinnable, ganmoliaeth ar draws y bwrdd: "Meddwl comedi gwych" (Argymhellir gan British Comedy Guide. "Es i am awr yn chwerthin ar bob yn ail air" ***** The LGBT Arts Review. "Mae Bethany ymysg y goreuon." **** Funny Women. **** Fest Mag.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.