Event Info
Mick Perrin Worldwide yn cyflwyno
Dylan Moran: LOOKING FOR TROUBLE
Amser gweithredu. Be ‘dach chi’n mynd i wneud?
‘Dach chi’n mynd i fynd i'r gwaith? Neu aros yn y gwely, yn cwrso ebargofiant. Dyfalwch beth?
‘Does dim ebargofiant ar ôl. Bydd yr Economi'n gwneud yn iawn hebdoch chi - ond pa mor hir fyddwch chi'n goroesi heb y mwg enfawr arferol o latte caramel wedi'i rewi a'r pum mil o ddarnau eraill o rwtsh ‘rydych chi wedi'u malu at ei gilydd fel y gallwch chi bwyntio ato a chrawcian 'Dyna fy ... mywyd?'
‘Nawr, ‘nawr, yr holl ddrama ‘ma a ‘dan ni ddim allan trwy’r drws eto.
Ffeindiwch allan sut y gallai popeth wedi bod yn wahanol. Ffeindiwch allan sut i ail-hawlio’ch bywyd trwy ddod yn bencampwr gwyddbwyll neu’n gicfocsiwr angheuol. Arloeswch dueddiadau newydd mewn creu cariad byd-eang, ymunwch â band elitaidd o feirdd, cogyddion, mynyddwyr. Jyst ewch
I EDRYCH AM DRWBWL
Sioe newydd sbon gan y digrifwr sydd wedi ennill gwobrau BAFTA a Perrier ac sy’n seren Black Books, Dylan Moran.
“Yn llawen o sinigaidd”★★★★★ Metro
“Perffaith ar gyfer yr oes”★★★★★ The i
“Gwych” ★★★★ Guardian
“Gan ragori ar Shakespeare, mae’n crynhoi bywyd yn bedwar cyflwr: “Plentyn, methiant, hen a marw”. Pan ‘dach chi’n wynebu llinellau o’r math, mae’r byd yn sydyn yn ymddangos yn lle gwell.” -★★★★ Telegraph
Canllaw Oedran: 16+ oed
Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.