Event Info
10am-12:30pm
Brian Swaddling + Esyllt Lewishttps://aberystwythartscentre.co.uk/writer-in-residence/ Sesiwn i ddysgwyr Cymraeg a phobl sydd â diddordeb mewn iaith i ddod i archwilio’r berthynas rhwng creu celf am / yn y tir, ac iaith, a beth all y gydberthynas hon ddysgu i ni am natur, y ffordd yr ydym yn ymwneud â’r byd naturiol fel pobl, a phwysigrwydd enwau i ddeall ein cynefin. Dewch ag esgidiau cerdded a menig… a siaced!Mae Awdur Preswyl yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2026 i ddathlu cydnabyddiaeth Aberystwyth Ceredigion fel Dinas Llên a rhan o rwydwaith byd-eang UNESCO o Ddinasoedd Creadigon.
Tirio - Yn cyd-fynd â Phrosiectau Labordy Byw Prifysgol Aberystwyth (https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/sustainability/environment-sustainability/living-labs/) Mae Labordai Byw yn annog dysgu ymarferol ac archwilio cynaliadwyedd trwy brofiadau byd go iawn. Drwy gymryd rhan yn y prosiect hwn, byddwch nid yn unig yn ymlacio ond hefyd yn ymgysylltu â'r amgylchedd naturiol, gan hyrwyddo creadigrwydd, ymwybyddiaeth amgylcheddol, a lles … i gyd yn cyd-fynd â chenhadaeth prosiectau'r Labordy Byw sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd!
Mae lleoedd yn gyfyngedig, cofrestrwch nawr a byddwch yn rhan o rywbeth creadigol, cymdeithasol, a di-straen!