Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 8 Mai
·
Theatr

Event Info

Cynhyrchiad Theatr Cymru 

Huw Fyw  

Gan Tudur Owen 

Dyma stori gwir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra’ farw yn yr Ail Ryfel Byd.  

Dydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd. A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith… na gwastraff nac unrhyw beth sy’n gofyn iddo godi o’i gadair. Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o’i bentra’ bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw.  

Yn dilyn galw mawr, mae Huw Fyw yn ôl ar daith i gynnig cyfle arall i gynulleidfaoedd fwynhau drama lwyfan gyntaf Tudur Owen – drama ddoniol a thyner am obaith, diogi a sut mae ’neud 4 panad gydag un bag te!  

Cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau i gael gostyngiad 10% am Cynllun SIARAD

Cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau i gwneud archeb Ysgol Uwchradd:

(Plentyn £10 / Athrawon am ddim i bob 10 plentyn.

Canllaw Oedran: 12+ oed

Rhediad: 90 munud dim toriad

Iaith y perfformiad: Cymraeg

Hygyrchedd: Bydd capsiynau caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael drwy gyfrwng yr ap Sibrwd

Canllawiau Cynnwys: Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at ryfel, euogrwydd goroesi ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Bydd synau ergydion a gweiddi yn ystod y perfformiad.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 08 Mai, 2026
19:30
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.