Event Info
Takeshi Koike, Siapan 2026, 92 munud, is-deitlau
Mae lleidr bonheddig enwocaf Siapan wedi cael ei ddathlu ar y sgrîn ers dros 50 mlynedd, gyda hyd yn oed Hayao Miyazaki yn chwarae rhan arwyddocaol yn y straeon poblogaidd hyn. ‘Nawr mae'r cyfarwyddwr enwog Takeshi Koike yn cyfuno hwyl ac egni gyda'i ddawn weledol ginetig nodweddiadol ar gyfer y ffilm animeiddiedig newydd sbon hon sy'n plethu anturiaethau'r lleidr meistr a'i ddilynwyr o’r gorffennol a'r presennol. Ar ôl delio gyda chyfres o asasiniaid deheuig, mae Lupin III a'i griw yn dilyn gwahoddiad rhyfedd i ynys anhysbys. Pan gaiff eu hawyren ei saethu i lawr, mae'r gang yn sownd ac yn fuan yn cael eu hela gan drigolion yr ynys, gelynion o’r gorffennol, ac anfarwolyn erchyll sy'n bygwth dinistrio etifeddiaeth Lupin.