Event Info
Canllaw Oedran: 14+ oed
Rhediad: 80 munud dim toriad
Deng mlynedd, dros 20 o wledydd, a chwerthiniadau di-ri’ yn ddiweddarach, mae Meet Fred gan Hijinx yn ôl!
Mae'r dychan tywyll, doniol hwn, sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn dilyn Fred, pyped sy'n ymladd dros ei annibyniaeth wrth i'w Lwfans Byw fel Pyped gael ei fygwth. Golwg hynod ddoniol a thanseiliol ar fiwrocratiaeth, hawliau anabledd, a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol. Yn cynnwys iaith gref a noethni pypedau.
Hijinx, mewn cydweithrediad â Blind Summit.
"Miniog, doniol a difyr iawn" - Lyn Gardner
Iaith y perfformiad: Cymraeg a Saesneg
Hygyrchedd: Bydd capsiynau yn cael eu dangos uwchben y llwyfan
Canllawiau Cynnwys: Lleisiau uchel, rhegi, ychydig ddefnydd o fwg, rhai golygfeydd mewn goleuni isel iawn, yn cynnwys iaith gref a noethni pyped. Hynanladdiad.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.