Event Info
Annemarie Jacir, Palesteina/y DU 2025, 120 munud
Mae hi'n 1936. Mae Palesteina wedi bod o dan reolaeth orfodol Brydeinig ers y 1920au, ond mae tensiynau'n codi ynglyn â dyfodol y diriogaeth. Gan groniclo bywydau ffermwyr lleol, chwyldroadwyr a pherchnogion busnes, mae hwn yn gofnod gafaelgar o'r gwrthryfel yn erbyn rheolaeth drefedigaethol 30-mlynedd Prydain. Wrth i bob ochr agosáu at wrthdaro anochel, mae'n dod yn foment dyngedfennol yn hanes Ymerodraeth Prydain a dyfodol y rhanbarth cyfan. Jeremy Irons sy'n arwain cast gwych yn y ddrama hanesyddol bwerus hon.