Event Info
Ym mis Awst 1972, perfformiodd John Lennon (gyda Yoko Ono) ddau gyngerdd
llawn hyd ym Madison Square Garden, Dinas Efrog Newydd - yr unig gyngherddau a
berfformwyd ganddo ar ôl gadael y Beatles. Mae'r ffilm anhygoel o'r sioeau byw
gwych hyn bellach wedi'i hadfer, ei hail-olygu a'i hailgymysgu i sain 5.1 gan
dîm y Lennons sydd wedi ennill Gwobr GRAMMY saith gwaith, gyda cherddoriaeth
wedi'i chynhyrchu gan fab John, Sean Lennon. Mae'r caneuon poblogaidd a
berfformiwyd yn cynnwys Imagine, New York City, a fersiynau bywiog o Come
Together, Hound Dog a Give Peace a Chance. Yn cynnwys gwesteion
arbennig megis Stevie Wonder, mae hwn yn brofiad sgrîn fawr gwych i unrhyw ffan
o John Lennon ac yn gyfle prin i weld a chlywed y cyngherddau unigryw hyn fel
erioed o'r blaen. 81 munud.