Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 8 Mai
·
Talks & Spoken Word

Event Info

Cyfyngiad Oedran:12+ oed YN UNIG

Rhediad: Mae'r drysau'n agor am 6.30yh, gyda sgyrsiau'r awdur yn dechrau o 7yh. Bydd pob awdur yn darllen o'u llyfrau ac yn rhoi sgyrsiau arno ac yn cymryd cwestiynau o'r gynulleidfa. Cewch gyfle i brynu copïau wedi'u llofnodi o'r llyfrau. Gorffen tua 9.30yh.

Noson o sgyrsiau am lyfrau a llofnodi llyfrau yw Queer Lit Quarterly a gynhelir gan Lyfrau Gayberystwyth Books gyda chefnogaeth Aberration Cymru. Dyma gyfle i gwrdd ag awduron, ymchwilwyr a chyhoeddwyr cwiar, a fydd yn darllen o'u llyfrau, yn siarad am eu cymhelliant a'r broses ysgrifennu ac yn ateb cwestiynau o’r gynulleidfa, gan ddod â’r noson i ben gyda thrafodaeth banel.Cewch y cyfle i gwrdd â'r awduron, prynu eu llyfrau a gofyn i’r awduron eu llofnodi.

ROSIE WILBY

Mae Rosie Wilby yn ddigrifwraig, awdures, siaradwraig, newyddiadurwraig a darlledwraig arobryn. Mae ei llyfrau ffeithiol The Breakup Monologues, ynghyd â phodlediad o'r un enw, a Is Monogamy Dead? a gyrhaeddodd restr hir Gwobr Llyfr Cyntaf Polari, yn cyfuno hiwmor, galar a gwyddoniaeth i gymryd cipolwg cwiar iawn ar seicoleg perthnasoedd. Mae hi bellach yn gweithio ar nofel gyntaf yn seiliedig ar ei phrofiadau o weithio fel menyw hoyw yn y diwydiant comedi.

The Breakup Monologues: The Unexpected Joy of Heartbreak

(Bloomsbury Publishing, Ionawr 2023)

Yn 2011, cafodd y ddigrifwraig a'r bodledwraig Rosie ei dympio trwy e-bost ... er ei bod hi yn teimlo ychydig yn well am y peth ar ôl cywiro sillafu ac atalnodi ei chyn-gariad. Mae wedi bod yn obsesiynu am bobl yn gwahanu ers hynny a dechreuodd ar daith i ymchwilio, deall a gorchfygu seicoleg torcalon.

Mae'r llyfr hwn yn llythyr serch at ei phrofiadau, dathliad o'r hyn y mae wedi dysgu yn eu sgil, ac yn llawn anecdotau gan ffrindiau a chyfweliadau gyda therapyddion perthynas, gwyddonwyr a chymdeithasegwyr ynglyn â gwahanu yn yr oes fodern.

Gan gymysgu hiwmor, cofiant a gwyddoniaeth, mae hi'n ceisio cymathu eu cyngor a'u syniadau er mwyn peidio â gwahanu â’i phartner o bron i dair blynedd. A fydd y monogamydd hunan-gyffesedig hon, sy’n gaeth i wahanu, yn setlo i lawr o'r diwedd?

J.S. STRANGE

Mae J. S. Strange yn byw yng Nghymru wedi'i amgylchynu gan lyfrau, a'i dair cath. Gyda diddordeb yn yr ocwlt, yr esoterig, a'r paranormal, mae J. S. Strange yn aml yn aros am Galan Gaeaf, neu'n meddwl sut y gall wneud ei gartref yn fwy goruwchnaturiol. Yn awdur The Boyfriend Academy, mae J. S. Strange, hefyd yn gweithio ar straeon llofruddiaeth gyda phrif gymeriadau gwrywaidd hoyw.

The Boyfriend Academy

(Un Bennod Arall, Ebrill 2026) 

Nid yw Ysgol Ganymede yn ysgol breswyl gyffredin. Y tu ôl i'w thyrau troellog a'i lawntiau taclus, mae bechgyn yn cael eu ffurfio i fod y dynion y mae cymdeithas yn mynnu - cryf, ufudd, perffaith. Graddiwch, a chewch bopeth: cartref, gyrfa, gwraig. Ond os ydych yn methu … nid ydych bellach yn ddefnyddiol i gymdeithas.

I Dylan Cecil, dylai fod yn syml: cadw ei ben i lawr, goroesi graddio, ac ennill ei le. Ond pan mae ei ffrind, Blake, yn diflannu, ni all Dylan dawelu'r cwestiynau sy'n ei boeni, hyd yn oed pan mae sibrydion am berygl yn mynd o gwmpas neuaddau moethus yr ysgol.

Wrth i dreialon mis Mehefin ddod i ben - wyth prawf a fydd yn penderfynu pwy sy'n deilwng o fod yn ddyn - mae Dylan yn cael ei aflonyddu gan absenoldeb Blake ac yn cael ei ddenu at Roman Edwards, bachgen magnetig ond un sy’n anodd iawn ei ‘nabod.

Mewn byd wedi'i ailadeiladu ar drefn ac ufudd-dod, rhaid i Dylan benderfynu: a fydd yn dod y dyn y mae'r academi ei eisiau - neu'r dyn ydyw mewn gwirionedd?

SACHA COWARD

Mae Sacha Coward wedi gweithio mewn amgueddfeydd a maes treftadaeth ers dros ddeng mlynedd. Am y tair blynedd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio'n llawrydd fel hanesydd, siaradwr cyhoeddus, tywysydd teithiau ac ymchwilydd. Mae wedi cynnal teithiau sy'n ffocysu ar LGBTQ+ ar gyfer amgueddfeydd, mynwentydd, archifau a dinasoedd ledled y byd. Mae Sacha yn ymddiddori’n angerddol mewn hanes, mytholeg, llên gwerin ac adrodd straeon cwiar ym mhob un o'u hamrywiol ffurfiau. Queer As folklore yw ei lyfr cyntaf.

Queer as folklore: The hidden queer history of myths and monsters

(Gwasg Prifysgol Manceinion, Tachwedd 2025)

Dathliad o hanes cwiar fel na welsoch ef erioed o'r blaen.

Mae Queer as folklore yn teithio ar draws canrifoedd a chyfandiroedd i ddatgelu arwyr a dihirod anhysbys byd adrodd straeon, hud a ffantasi. Gan gynnwys delweddau o archifau, orielau ac amgueddfeydd ledled y byd, mae pob pennod yn ymchwilio i hanes cwiar gwahanol gymeriadau chwedlonol a llên gwerin, hen a newydd.

Heb adael yr un garreg fedd heb ei throi, mae Sacha Coward yn mynd â chi ar daith wyllt trwy'r nos o Wlad Groeg hynafol i brif lwyfan Ras Drag RuPaul, gan ymweld â môr-ladron sy'n groes-wisgo, tylwyth teg radicalaidd a beddau'r ‘ymadawedig cwiar’ ar hyd y ffordd. Mae cymunedau cwiar yn aml wedi ceisio lloches yn y cysgodion ac wedi creu mannau diogel yn yr isfydoedd. Ond mae'r naratifau anghofiedig hyn yn adrodd straeon am wydnwch sy'n haeddu cael eu clywed.

Ymunwch ag unrhyw orymdaith Pride ac fe welwch arddangosfa ogoneddus o bennau ungorn papier-mâché, breninesau drag mewn cynffonau môr-forwyn a mwy o adenydd tylwyth teg nag y gallwch chi ysgwyd tridant atynt. Nid ategolion yn unig yw'r rhain: maent yn symbolau cwiar gyda gwreiddiau hanesyddol. Er mwyn deall yn iawn pwy yw bobl cwiar heddiw, rhaid inni wynebu straeon troellog y gorffennol.

MALCOLM PRINCE

Am ugain mlynedd, Malcolm Prince oedd cynhyrchydd radio Paul O’Grady yn y BBC lle buont yn gweithio gyda’i gilydd ar raglenni dogfen, rhaglenni tymhorol arbennig, a sioe boblogaidd Paul ar Radio 2 ar brynhawn Sul, a redodd am bedair blynedd ar ddeg. Ef oedd cynhyrchydd lansio Elaine Paige on Sunday,AlanCarrand Melanie Sykes’ Saturday Escape, ac am ddegawd, cynhyrchodd raglen hynod lwyddiannus Graham Norton ar fore Sadwrn (y cyfan ar Radio 2). Mae ei gyfresi nodedig wedi cynnwys hanes teledu Prydain gyda Michael Grade, hanes sinema gyda David Puttnam, a dathliad wyth-rhan o theatr gerddorol a gyflwynwyd gan Julia McKenzie a Siân Phillips. Gadawodd y BBC yn 2022. Cyfrannodd at For The Love of Paul O’Grady ar ITV yn 2023, ac ABBA: 50 Years of Pop ar Sianel 4 yn 2024. Mae'n byw yng Nghaint ac yn parhau i gynhyrchu rhaglenni achlysurol ar gyfer Boom Radio.

Paul O’Grady - Not The Same Without You: The Man. The Magic. The Friendship

(HarperCollins, Tachwedd 2025)

‘Paul oedd ffrind gorau’r genedl. A’m ffrind gorau i hefyd. ‘Roedd yn unigolyn talentog a chymhleth, yn ddyn anhygoel a llawn bywyd. Mae cymaint o’r hud radio a greodd wedi diflannu i’r tonnau awyr, ond diolch i HarperCollins, a gyda chefnogaeth ei ferch a llawer o ffrindiau a chydweithwyr agos Paul, ‘rwyf wedi cael y cyfle i gofnodi’r ugain mlynedd hynod ddoniol a dramatig a dreuliasom gyda’n gilydd. Mae wedi bod yn fraint i ddiweddaru ei stori nodedig ac, yn union fel Paul O’Grady, mae’r llyfr hwn yn ddiffuant, yn onest ac mae ganddo ychydig bach o frathiad hyd yn oed.’ - Malcolm Prince

Yn y bywgraffiad personol ac hynod ddadlennol hwn, mae cydweithiwr hir-dymor Paul, Malcolm Prince, yn tynnu ar ddau ddegawd o gyfeillgarwch - ac oriau o recordiadau preifat - i adrodd stori’r dyn y tu ôl i’r eicon: yr unigolyn craff, hynod ffyddlon, hynod ddoniol, a phreifat iawn, a adnabyddir gan ei ffrindiau agos fel ‘Savage’ - ac i’r cyhoedd, mewn amrywiol wisgoedd, fel seren deledu, ffrind y genedl oedd yn caru cŵn, a chydymaith radio prynhawn Sul. Mae Malcolm yn ailymweld â’r llwyfannau y bu Paul yn ymddangos arnynt, o’r Royal Vauxhall Tavern i’r London Palladium; yr eiliadau a’i luniodd; ac yn tynnu ar gyfweliadau newydd sbon gyda’r bobl oedd yn ei adnabod gorau, gan gynnwys ei ferch a’i wyrion.

Mae hwn yn bortread nid yn unig o ddiddanwr dawnus, ond o ddyn cymhleth, hynod ffyddlon, a chwilfrydig drosben, gan fyfyrio ar gyfeillgarwch a adeiladwyd ar chwerthin a rennir, rantiau preifat, dicter cyfiawn, galwadau ffôn hir, a dos iach o glecs - ac ar etifeddiaeth broffesiynol sy'n dal i deimlo'n syfrdanol o ran ei hamrediad a’i pherthnasedd.

Yn llawn cynhesrwydd, hiwmor a straeon nas clywyd erioed o'r blaen, mae Not The Same Without You yn cyfleu mesur llawn dyn a heriodd gonfensiwn a sefydliadau, creodd ddireidi - ac a wnaeth i ni i gyd deimlo mai ni oedd ei ffrind gorau.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan 'Gronfa Ysbrydoli Cymunedau ' Llenyddiaeth Cymru. Diolchwn iddynt am eu cefnogaeth gyson.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 08 Mai, 2026
19:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.