Ewch at gynnwys
Llun 5 Ion
·
Cyrsiau Wythnosol

Event Info

Tymor 2: Dechrau 05.01.2026 tan 28.03.2026

Faint o wythnosau: Cwrs 11 wythnos (dim gwers yn ystod hanner tymor)

Pryd: Dydd Llun 4-5yp + Dydd Sadwrn 12.30-1.30yp

Oedran: 11+oed

Lleoliad: Ystafell Ymarfer 1 + Stiwdio Ddawns 3&4

Tiwtor: Miss Sarah

** Gostyngiad ar gael i fyfyrwyr Theatr Ieuenctid Hŷn ac Ifanc - cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau **

Yn y dosbarth calonnog ac hwyliog hwn, gallwch ddisgwyl gweithio ar gymysgedd o alawon sioe, y cyfan wedi eu cynllunio i gael eich traed yn symud a’ch calon yn pwmpio. Bydd Miss Sarah yn eich arwain trwy gyfres o ddawnsiau o wahanol sioeau cerdd poblogaidd.Byddwch yn datblygu technegau i’ch helpu i adrodd stori trwy ddawns. Bydd y dosbarthiadau dawns hyn yn eich tywys trwy dechnegau steiliau cerddorol eiconig a ysbrydolwyd gan enwogion megis Bob Fosse, Gene Kelly a Jerome Robbins. Nid oes rhaid i chi fod y dawnsiwr gorau, ‘rydym jyst yn edrych am barodrwydd i ddysgu, egni a brwdfrydedd! ‘Does dim angen profiad! Cynhelir y dosbarth hwn dwywaith yr wythnos, 4pm-5pm ar Ddydd Llun yn Stiwdio Ddawns 2 a 12:45pm-1:45pm ar Ddydd Sadwrn yn Stiwdio Ddawns 3 a 4.

Dates & Tickets

Dydd Llun 05 Ionawr, 2026
16:00
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.