Event Info
Theatr Ieuenctid Iau yn cyflwyno
Sister Act Jr
Yn seiliedig ar y ffilm 1992 boblogaidd a’r sioe gerdd Broadway a enwebwyd ar gyfer gwobr Tony, Sister Act Jr yw’r gomedi gerddorol galonogol a fydd yn cael cynulleidfaoedd yn neidio ar eu traed! Yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol gan Alan Menken (Newsies, Beauty and the Beast, Little Shop of Horrors).
Pan mae’r ddifa disgo Deloris Van Cartier yn dyst i lofruddiaeth, mae’n cael ei gosod yn yr un lle y mae'r heddlu'n siŵr na fydd neb yn ei darganfod - lleiandy! Wedi'i chuddio fel lleian, mae hi'n cael ei hun yn gwrthdaro â'r ffordd o fyw anhyblyg a'r Uchel Fam gaeth, hen ffasiwn. Gan ddefnyddio ei symudiadau disgo unigryw a'i thalentau cerddorol i ysbrydoli'r côr, mae Deloris yn rhoi bywyd newydd i'r eglwys a'r gymuned ond, wrth wneud hynny, mae'n datgelu pwy ydi hi mewn gwirionedd. Yn fuan, mae'r gang ar ei hôl, ond yn ffeindio eu hunain yn gorfod wynebu Deloris a phŵer ei chwaeroliaeth newydd.
Canllaw Oedran: Addas i bawb ( Dim plant o dan 2 oed )
Rhediad: 70 munud gan gynnwys egwyl
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.