Event Info
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG ( Caniateir alcohol )
PARTH MELYN ZONE: Canllaw Oedran: 7+ oed ( Ni chaniateir alcohol )*
Rhediad: 2 awr + 20 munud gan gynnwys toriad
Canllawiau Cynnwys: Goleuadau yn fflachio / ychydig o oleuadau 'strobe' / mwg
Iaith y perfformiad: Saesneg
Mae'r Chicago Blues Brothers yn ôl - ac maent yr un mor wallggof a bywiog ag erioed!
Gan ddathlu 45 mlynedd o gerddoriaeth wych y Blues Brothers, mae'r cyngerdd byw hwn yn cyflwyno noson egnïol o’r felan wefreiddiol, clasuron gwlad a fydd yn eich cael yn stampio’ch traed, ac ychydig o syrpreisys bythgofiadwy ar hyd y ffordd.
O ganeuon eiconig ffilmiau'r Blues Brothers i rai o’r anthemau gwlad gorau erioed, mae hwn yn gymysgedd cerddorol unigryw - y cyfan yn cael ei gyflwyno yn null digyffelyb y CBB gyda thro ffres a fydd yn gwneud i chi ganu, clapio a dawnsio yn yr eiliau.
Fel y’i gwelwyd yn Theatrau Adelphi a Savoy y West End, mae'r cynhyrchiad arobryn hwn yn gwarantu egni di-baid, perfformio ysblennydd, a llawer iawn o hwyl.
Felly cydiwch yn eich het, tynnwch y llwch o’ch esgidiau, a pharatowch ar gyfer strafagansa anhygoel sy’n ffrwydro oddi ar y llwyfan ac i mewn i'ch enaid! Yn feiddgar ac yn ddiymheuriad - dyma un noson na fyddwch chi'n ei hanghofio!
““Tynn, Steilus a Beiddgar” The Stage
“Bywiog, Hwyliog ac Heintus” Time Out
“Cyflym, llawn cyffro ac yn sicrhau bod pawb yn cael amser da” The Reviews Hub
“10/10 Perffaith” Writebase Lerpwl
*Parth Melyn Zone : Termau ac Amodau i'r Parth Melyn Zone YMA
Bydd y Parth Melyn hwn yn berthnasol ar gyfer y perfformiad hwn. Am hyd y perfformiad, bydd Balconi’r Gorllewin (y gellir ei gyrraedd trwy Ddrws F) yn barth di-alcohol. Mae hyn yn golygu y gall plant 7-11 oed fwynhau'r perfformiad, yng nghwmni’r oedolion sy'n dod gyda nhw, mewn amgylchedd sy'n addas i deuluoedd. Sylwch y caniateir alcohol i rannau eraill o'r awditoriwm, gyda chyfyngiad oedran o 12+ yn berthnasol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â’r Parth Melyn, cysylltwch â'r tîm.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.