Event Info
David Frankel, UDA 2026, AD, 120 munud
HOH : Dangosiad gydag isdeitlau ar 11 Mai am 5.20yh
Mae Meryl Streep, Anne Hathaway, Emily Blunt a Stanley Tucci yn dychwelyd i swyddfeydd cain cylchgrawn Runway yn Efrog Newydd yn y ffilm ddilynol hir-ddisgwyliedig hon, bron ugain mlynedd ar ôl y ffilm gyntaf hynod boblogaidd. Wrth i'r weithredwraig ffasiwn uchelgeisiol Miranda (Streep) agosáu at ymddeoliad, mae hi'n ailuno gyda'i chyn gynorthwy-ydd (Hathaway) am un frwydr fywiog olaf yn y byd cyhoeddi. Gyda Kenneth Branagh hefyd yn serennu.