Event Info
Canllaw Oedran: 13+ oed - Themâu o natur gnawdol
Rhediad: 48 munud/toriad 20 munud/28 munud - Sgwrs ar ôl y sioe yn y Stiwdio
Croeso i'r Monocle, lle ‘does dim byd yn amhosibl!
Mae'r perfformiad dawns gyfoes hynod feistrolgar hwn, yn cynnwys y gantores jas gyfareddol Imogen Banks, yn cyflwyno stori nas adroddwyd Le Monocle - cabare lesbiaidd dirgel ym Mharis yn y 1930au.
Y tu mewn i'r Monocle, mae'r awyr yn drwchus, yn gynnes ac yn llawn cyfrinachau a chnawdolrwydd. Mae menywod yn chwerthin yn uchel, yn yfed trwy’r nos, ac yn ymgolli eu hunain mewn dawnsiau llyfn ac angerddol.
Am un noson yn unig, byddwch yn westai i ni yn y Monocle a phrofwch lawenydd sut mae’n teimlo i fod mewn lle gwirioneddol ddiogel.
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: Wedi’i ddehongli gan BSL ac efo disgrifiad sain
Cyfieithydd BSL yw Caroline Ryan, wedi'i hintegreiddio ym myd y cynhyrchiad.
Darperir disgrifiad sain trwy albwm wedi'i rag-gofnodi o 3 trac sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim. Bydd dechrau'r traciau yn cael ei gyhoeddi gan ein canwr ar y llwyfan.Canllawiau Cynnwys: Themâu o natur gnawdol / Golau'n fflachio / Niwlen / Noethni rhannol (dangosir bron un o’r dawnswyr rywbryd yn ystod y perfformiad)
Mae'r perfformiad hwn yn cynnwys gweithred o rwymo'r frest a gyflwynir fel cyfeiriad hanesyddol yng nghyd-destun naratif y gwaith. Gall y ddelweddaeth hon beri gofid i rai gwylwyr oherwydd ei chysylltiadau gydag addasu a niweidio’r corff.
The Monocle: Watch Dance / Open Company Class
AM DDIM ond mae angen tocyn - ARCHEBWCH YMA
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.