Event Info
Canllaw Oedran: Oedran: 16+ oed oherwydd natur y symudiad, noethni a chynnwys.
Rhediad: 60 munud dim toriad + Sgwrs ar ol y sioe yn y Stiwdio
Mae The Revenge of Popperface yn cyflwyno Popperface, yn dychwelyd o'r meirw fel ymgorfforiad chwyddedig, gyda gwefusau glas, o ordreuliant amyl nitrad (poppers). Mae'r ymgorfforiad hwn, neu alter ego yr artist Gareth Chambers, yn gwahodd cynulleidfaoedd i fod yn dyst i grefftio mytholegau personol trwy ddawns, crefftau ymladd cymysg, a bocsio, mewn archwiliad arbrofol o wrywdod. Mae'r ocwlt a'r operatig yn curo gyda'i gilydd, gan adeiladu tuag at grescendo tanddaearol, tra’n cael eu trochi yng nghaneuon estynedig yr arloeswraig ddisgo Ffrengig Amanda Lear - a oedd hefyd yn awen i Salvador Dalí.
Bywgraffiad:
Mae POPPERFACE yn tarfu ar ddulliau coreograffig traddodiadol, gan greu perfformiadau sydd wedi'u gwreiddio mewn profiad dosbarth-gweithiol, gwrywdod hoyw, ac unigoliaeth radicalaidd. Mae ei ymarfer yn tynnu ar MMA, bocsio, theatr ddawns, ac opera, gan greu iaith symudedd sy’n ffrwydrol yn gorfforol ac yn emosiynol.
Yn 2021, ‘roedd Popperface yn Gyfarwyddwr Cyswllt gydag Opera Genedlaethol Cymru ac yn Gymrawd Jerwood. Perfformiwyd y darn cyntaf o’r drioleg POPPERFACE, sef REVENGE, am y tro cyntaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter a The Place yn 2022 a chafodd ei dilyniant GOONERS ddangosiad yn Transform 23 tra’n parhau i gael ei ddatblygu.
Fel perfformiwr a chydweithiwr, mae POPPERFACE wedi gweithio gyda Doris Ulrich, Malik Nashad Sharpe, Blackhaine, ac Anushiye Yarnell ac wedi perfformio mewn lleoliadau blaenllaw gan gynnwys The Place, Canolfan Mileniwm Cymru, ICA a Theatr Laban.
Tîm Artistig
Coreograffydd - Popperface a adnabyddir hefyd fel Gareth Chambers
Cynhyrchydd - Sara Sassanelli
Perfformwyr - Richard Pye a Louis Ellis
Sain - Rainy Miller
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: Gwaed ffug, Niwl, Noethni, Arogldarth, Golau yn Fflachio, Symudiad aflonydd
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.