Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 6 Maw
·
Dawns

Event Info

Canllaw Oedran: 7+ oed

Rhediad: 30 munud/toriad 15 munud/30 munud

BIL DWBL: TWAWSI - THE WORLD AS WE SEE IT… 

 Mae bywyd dynol yn fyr, mae'r byd yn dal i ddatgelu …

Gan ail-ddiffinio dawns o'r Diaspora Affricanaidd, mae bil dwbl newydd cwmni dawns a cherddoriaeth ACE yn cyflwyno dwy weledigaeth gyferbyniol bwerus o'n byd heddiw.

 ECHOES OF DUST - gyda choreograffi gan Serge Aimé Coulibaly, gyda chyfraniadau creadigol Sigué Sayouba

Pan mae’r byd yn crynu, beth sy'n weddill o'n dynoliaeth?

Pan ymddengys bod popeth wedi’i golli, pa obaith gallwn afael ynddo?

Mewn byd wedi'i rwygo gan ryfel, trychineb a chwymp anweledig cysylltiad dynol, mae saith unigolyn yn cael eu hunain yn sownd yng nghanol llanast. Gan wynebu gweddillion byd sydd wedi'i chwalu, ac heb unrhyw sicrwydd a chof, maent yn hercian, yn ymladd, ac yn protestio; gyda phob cyfarfyddiad, mae llais yn cael ei ail-hawlio.

LETLALO - gyda choreograffi gan Vincent Mantsoe  

Mae Letlalo, sy'n golygu "Croen" yn iaith frodorol Mantsoe sef Sotho, yn tynnu ar ieithoedd dawns Affricanaidd, Cynhenid, a Chyfoes i archwilio'r cysylltiad dwfn rhwng dynoliaeth a'r ddaear.

Wedi'i wreiddio mewn doethineb hynafol ac wedi'i ysbrydoli gan ddiwylliannau nomadaidd, mae'r perfformiad yn myfyrio ar gryfder tawel cymunedau sy'n byw mewn harmoni. Mae'n archwilio'r haenau o dan yr wyneb, gan ystyried gwir hanfod yr ysbryd dynol, tra’n mynd i’r afael â themâu pŵer, undod, tangnefedd, a chydgysylltiad.

Canllaw Cynnwys: Rhan fer o oleuadau 'strobe' ar ddechrau'r ddawns gyntaf yn Echoes of Dust

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 06 Mawrth, 2026
19:30
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.